Un Peth Bychan

Fel cyfraniad bach at ddiwrnod y Pethau Bychain, i ddathlu'r iaith Gymraeg ar y we, dw i'n moyn cymeradwyo pecyn iaith sydd ar gael i ddefnyddio porwr gwe Opera yn y Gymraeg.

Mae Firefox yn iawn, ac mae pecyn iaith wedi bod ar gael i'w ddeffnyddio yn y Gymraeg ers talwm, yma. Ond, yn fy marn i, mae Opera yn lawer, llawer gwell. Mae'n fwy cyflym, mwy addasiadol, mwy defnyddiol, mwy diogel.

Does dim pecyn iaith Gymraeg swyddogol ar gael ar gyfer Opera, ond mae fersiwn answyddogol ar gael yma. Diolch yn fawr iawn i Marc. Dw i wedi bod yn ei ddefnyddio ers pythefnos nawr. Pleser pur. Ond, yn anfoddus, dydy rhai llythrennau gydag acenion—e.e. â, ï, ô ayyb—ddim yn gweithio. Roedd y ffeil yn gymharol hawdd i'w thrwsio. Felly, dw i wedi gwneud fersiwn arall o'r ffeil, sydd ar gael yma. Dyma lun o'r sgrîn:

     

Opera. Y dyn porwr mwy pwerus yn y byd.

     

Diolch i Jaxxlanders am ddod o hyd i'r llun.

Bookmark and Share

4 comments:

Anonymous said...

Gwych. Opera - cwmni Norwyaidd ardderchog! Diolch MH. Ond yda ni bobl MAC a/neu technegol analluog yn gallu defnyddio hwn?

MH said...

Dw i ddim yn defnyddio Mac, ond mae 'na fersiwn Opera ar gyfer Mac ar gael yma. Ar ôl ei osod, chwilia am leoliad y ffolder "en" (neu "en-gb") sy'n cynnwys y ffeil "en.lng" (neu en-gb.lng), crea ffolder newydd "cy" yn yr un lleoliad a rhoi "cymraeg.lng" ynddo.

Wedyn, agor Opera a chlic "Tools" > "Preferences" > "General" ac wedyn clic "Details..." ar y gwaelod. Dewis "cymaeg.lng" fel "User interface language". A dyna ni ... gobeithio!

Anonymous said...

DIolch!! Gyda llaw, oes 'na gyfeiriad ebost ar gyfer blog Syniadau?

MH said...

syniadau [malwen] inbox [smot] com

Post a Comment